Mil Naw Wyth Deg Pedwar (1984 in Welsh) (Caled / Hardback)
Synopsis
MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI...
Ar gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg, Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd.
Roedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol, ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus, yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four, ymhlith y nofelau mwyaf poblogaidd erioed mewn unrhyw iaith.
Wedi'i chyhoeddi'n wreiddiol yn 1948, hwyrach mai Nineteen Eight-Four yw'r nofel ddistopaidd enwocaf erioed a bu'n gyfrifol am gyflwyno bathiadau newydd i'r iaith Saesneg fel Big Brother, Doublethink, Thought Police ac Orwellian.
Sylwer: Dyma'r fersiwn 'duluxe' clawr caled, gyda thraethawd gan y cyfieithydd am y cyfieithiad, a rhestr eirfa Newyddiaith.
Publisher information
- Publisher: Melin Bapur
- ISBN: 9781917237611
- Number of pages: 280
- Dimensions: 229 x 152 x 22 mm
- Languages: Welsh
