'Golwg Ehangach': Ffotograffau John Thomas O Gymru Oes Fictoria
Synopsis
Mae'r gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (1838-1905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma'r astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, sy'n torri cwys newydd wrth ddadansoddi'r delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Mae'r gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas i'r modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (1876-1964) i'r ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.
Publisher information
- Publisher: University of Wales Press
- ISBN: 9781837721177
- Number of pages: 208
- Dimensions: 216 x 138 x 12 mm
- Languages: Welsh
